Oedi cyn cyhoeddi adroddiad pwerau
- Cyhoeddwyd

Bydd oedi o hyd at flwyddyn cyn cyhoeddi adroddiad llawn am bwerau'r Cynulliad yng Nghymru, medd llywodraeth y DU.
Fe lansiodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, gomisiwn datganoli y llynedd i ystyried a ddylid rhoi mwy o bwerau i Gymru.
Roedd y rhan gynta yn ystyried a ddylai Bae Caerdydd gael mwy o bwerau dros drethu ac mae disgwyl cyhoeddiad yn yr hydref.
Ond ni fydd ail ran yr adroddiad - oedd i fod i gael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf - yn barod tan 2014.
'Estyniad'
Mewn datganiad dywedodd Mrs Gillan: "Bydd ail gymal y comisiwn yn ystyried pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol ac a oes angen argymell newidiadau allai wella'r trefniadau presennol.
"Mae'r comisiwn wedi gofyn am fwy o amser o ran adrodd yn ôl ei argymhellion mewn perthynas â chymal dau.
"Rwyf wedi cytuno i'r cais ac fe fydd y comisiwn felly'n cyhoeddi canlyniadau yr ail ran erbyn gwanwyn 2014 yn hytrach nag 2013, gan ei alluogi i roi ystyriaeth lawnach i'r setliad datganoli yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 3 Tachwedd 2011
- 8 Mawrth 2012