Meibion Speed a Bellamy yng ngharfan dan 16 oed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae mab cyn-reolwr Cymru a mab un seren y tîm rhyngwladol yng ngharfan hyfforddi o dan 16 oed pêl-droed Cymru.
Cyfarwyddwr Technegol a Rheolwr y Tîm Bechgyn Dan 16 oed, Osian Roberts, sydd wedi dewis y 29 o chwaraewyr.
Mae Ed Speed yn fab y diweddar Gary Speed ac Ellis Bellamy yn fab Craig Bellamy.
Roedd Gary Speed a Craig Bellamy yn gyfeillion agos, yn chwarae dros Gymru gyda'i gilydd.
Dywedodd Roberts fod y ddau yn dangos "potensial cyffrous".
"Mae o'n union fel ei dad," meddai am Ed.
Cymorth
"Roedd 'na gêm cyn y Nadolig ac fe wnaeth o gymaint o gyfraniad. Mae'n fy atgoffa i gymaint o Gary.
"Gobeithio y bydd yn dalent eithriadol. Mae'n gwneud popeth yn iawn."
Ychwanegodd fod pêl-droediwr enwog o dad yn gallu bod o gymorth yn ogystal â bod yn fwrn ar yr ieuenctid.
"Mae'r disgwyliadau a'r pwysau gymaint yn fwy," meddai.
"Ond o ran Ellis ac Ed, maen nhw'n delio gyda'r cyfan yn dda iawn, maen nhw'n ddynion ifanc aeddfed ac mae eu hagwedd yn wych.
"Does 'na ddim rheol yn dweud os yw'ch tad yn chwaraewr arbennig y dylech chi fod hefyd ond mae cael rhywun sydd wedi bod drwy'r system o fantais."
Ym mis Chwefror fe wnaeth Ed a'i frawd Tommy arwain tîm Cymru allan gyda Bellamy ar gyfer gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe wnaethon nhw gyfarfod â'r tîm wedi i Costa Rica ennill o 1-0 a dywedodd y rheolwr newydd, Chris Coleman, y byddai eu tad yn "falch ohonyn nhw".
Fe fydd y garfan yn ymgynnull ar gyfer gwersyll hyfforddi pedwar diwrnod yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Y garfan:
Luke Pilling - CPD Tranmere Rovers
Keighan Jones - Dim clwb
Joseph Massaro - CPD Dinas Caerdydd
Ioan Evans - CPD Sheffield United
James Graham - CPD Everton FC
Aaron Davies - CPD Bristol City
Cian Harries - CPD Coventry
Shane Parry - CPD Dinas Caerdydd
Rollin Menayese - CPD Dinas Caerdydd
Dylan Thomas - CPD Dinas Abertawe
Tom Pearson - CPD Dinas Caerdydd
Lloyd Humphries - CPD Dinas Caerdydd
Charly Edge - CPD Everton
Joe McNulty - CPD Bristol City
Edward Speed - CPD Wrecsam
Corrig McGonigle - Dim clwb
Alex Penny - CPD Hull
Daniel James - CPD Hull
Elijah Phipps - CPD Dinas Caerdydd
Harry Wilson - CPD Lerpwl
Joseff Morrell - CPD Bristol City
William Abbots - CPD Bolton Wanderers
Chris Whittaker - CPD Wrecsam
Ellis Bellamy - CPD Dinas Caerdydd
Clive Smith - CPD Manchester City
Ryan Vos - CPD Dordrecht
Tom Lowrey - CPD Crewe Alexander
Joe Pugh - CPD Hull
Nyasha Mwamuka - CPD Yr Amwythig