Mwy o achosion bwrgleriaeth

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cynnydd mwyaf yn Nyfed Powys, cynnydd o 68%

Roedd yna gynnydd o 20% mewn achosion bwrgleriaeth yng Nghymru'r llynedd, yn ôl gwybodaeth ddaeth i law BBC Cymru.

Mae'r ffigyrau sy'n cael eu datgelu ar raglen Dragon's Eye yn dangos cynnydd yn achosion bwrgleriaeth o 1,483 yn Rhagfyr 2010 i 1,781 yn Rhagfyr 2011.

Ond mae ystadegau sydd wedi eu casglu gan wefan UKCrimeStats yn dangos fod y cyfartaledd ar gyfer yr holl droseddau gafodd eu cyflawni yng Nghymru 17% yn is yn Rhagfyr 2011 o'u cymharu â Rhagfyr 2010.

Yn ôl Dr Colin Rogers o Brifysgol Morgannwg bydd y newyddion yn achos pryder i heddluoedd.

"Oherwydd dros gyfnod o ddegawd a mwy mae nifer achosion bwrgleriaeth wedi gostwng yn raddol...byddant yn siomedig gyda'r cynnydd a dwi'n sicr y byddant yn cymryd mesurau priodol," meddai Dr Rogers o Ganolfan Astudiaethau'r Heddlu y brifysgol.

Cofnodi

Roedd y cynnydd mwyaf yn Nyfed Powys, cynnydd o 68%. Fe gododd nifer achosion bwrgleriaeth o 98 i 160.

Ond yng Ngwent roedd yna ostyngiad o 27%, lawr o 496 i 358.

Yn ardal Heddlu'r De, roedd yna gynnydd o 48%, o 563 i 834, gyda chynnydd o 31% yn ardal Heddlu'r Gogledd, o 326 o achosion i 429.

Mae rhaglen Dragon's Eye hefyd yn datgelu fod canol dinas Caerdydd wedi cofnodi 11,534 o droseddau yn 2011.

Hwn oedd y 7fed uchaf, o ardal, yng Nghymru a Lloegr.

Mae ardal canol dinas Caerdydd yn cynnwys Cathays.

Ymddygiad gwrth gymdeithasol oedd yn gyfrifol am 3,591 o'r troseddau.

Blwyddyn academaidd

Mewn datganid dywedodd Heddlu'r De: "Gyda nifer uchel o fusnesau, siopau a llefydd yn gwerthu alcohol yn Cathays a phoblogaeth uchel o fyfyrwyr, byddwch yn disgwyl i'r ardal hon, o ystyried busnesau sy'n agor yn hwyr yn y nos, i fod â lefelau trosedd yn uwch nag ardaloedd eraill.

"Gall cynnydd mewn troseddau fel bwrgleriaeth ddigwydd wrth i fyfyrwyr gyrraedd Caerdydd ar gyfer y flwyddyn academaidd.

"Mae nifer uchel o fyfyrwyr sy'n rhannu llety mewn ardal fel Cathays yn dueddol o arwain i raddfeydd uwch o droseddau nag mewn ardaloedd eraill.

"Pe bai pump o fyfyrwyr yn rhannu tŷ sy'n cael ei ladrata, yna mae nifer y troseddau yn cael ei gofnodi fel pump yn hytrach nag un."

Ychwanegodd yr heddlu fod swyddogion yn targedu pobl sy'n cael eu hamau o ddrwg weithredu ac mae gan yr heddlu bresenoldeb amlwg yn yr ardal.

"Mae Caerdydd yn parhau yn ardal diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi."