Ceblau: 'Bywyd mewn perygl'
- Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid iechyd wedi rhybuddio y gall bywydau fod mewn perygl oherwydd lladron sy'n dwyn copr.
Daw'r rhybudd ar ôl i geblau gwerth £10,000 gael eu dwyn o Ysbyty Abergele yn Sir Conwy.
Yn ôl llefarydd ar ran yr ysbyty, gallai'r lladrad fod wedi peryglu cleifion oedd yn cael llawdriniaeth.
Roedd hefyd risg, meddai, fod y lladron wedi aflonyddu ar asbestos wrth gymryd y ceblau.
"Doedd dim effaith ar y cyflenwad trydan ond fe allai'r weithred fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol i gleifion oedd yn cael llawdriniaeth," meddai'r llefarydd.
£15,000
Oherwydd presenoldeb yr asbestos bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gorfod talu £15,000.
Roedd y lladrad ym mis Rhagfyr.
Yn y cyfamser, mae heddluoedd Cymru yn lansio ymgyrch i daclo lladradau metel.
Gan fod metel yn fwy costus oherwydd mwy o alw a diffyg cyflenwad, mae dwyn metel wedi cynyddu drwy Gymru yn ddiweddar.
Mae nifer y lladradau o eglwysi bum gwaith yn fwy yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012
- 13 Chwefror 2012
- 29 Mai 2011
- 18 Gorffennaf 2009