Coleg: Cais i ddirwyn i ben

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r coleg yn rhan o ymchwiliad gan BBC Cymru

Mae coleg yn Llundain sy'n bartneriaid Prifysgol Cymru wedi cael ei ddiddymu.

Roedd Coleg Rayat yn rhan o ymchwiliad BBC Cymru y llynedd i gynllwyn oedd yn helpu myfyrwyr o dramor i gael visas gwaith.

Ar y pryd, mi wadodd y coleg eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o'i le gan ddweud fod y staff oedd yn cael eu cyhuddo o fod yn gysylltiedig â'r mater wedi eu hatal o'u gwaith.

Roeddynt hefyd wedi cyfeirio'r mater i'r heddlu.

Roedd 200 o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer gradd oedd wedi ei gymhwyso gan Brifysgol Cymru yng Ngholeg Rayat.

Dywed y coleg y bydd yn rhaid i 80 symud i ganolfannau eraill sy'n cynnig graddau tebyg i rai Prifysgol Cymru.

Yn ôl y coleg byddant yn rhoi help i'r myfyrwyr adleoli.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol