Agor canolfan gofal anifeiliaid mewn coleg
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan gofal anifeiliaid newydd wedi ei hagor yn swyddogol yng Ngholeg Llaneurgain, Sir y Fflint.
Roedd y cyflwynydd teledu Iolo Williams a'r dirprwy weinidog ar gyfer sgiliau, Jeff Cuthbert, ymhlith y rhai a fynychodd yr agoriad.
Mae'r ganolfan yn cynnig adnoddau sydd yn debyg i'r rhai sydd i'w gweld mewn sŵau gan gynnwys nifer o rywogaethau llai cyffredin.
Y bwriad yw i fyfyrwyr sydd yn astudio yn y maes i gael profiad gyda'r creaduriaid er mwyn gwella eu sgiliau.
'Gorau'
Dywedodd Pennaeth Coleg Glannau'r Dyfrdwy, David Jones: "Dwi'n gallu dweud mai hwn ydy'r unig un o'i fath ym Mhrydain ar y foment, a'r gorau hefyd.
"Mae lot o waith wedi cael ei roi mewn i ddylunio'r lle yma.
"Rydyn ni'n ceisio denu'r cyhoedd a disgyblion ysgol, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n annog lot o bobl ifainc i edrych am yrfaoedd yn y byd gofal anifeiliaid."
Mae'r ganolfan yn gweithio'n agos gyda Sŵ Bae Colwyn a Sŵ Caer.
Mae yna dros 100 o wahanol fathau o greaduriaid yn y ganolfan, gan gynnwys pryfed cop, crwbanod a mwncïod marmoset.
Wedi agor y ganolfan bu cyfle i blant ysgol leol sydd ar hyn o bryd yn ystyried eu hopsiynau addysg i weld beth sydd ar gael yno fel rhan o ddiwrnod blasu.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2012