Jenkins yn gobeithio newid ei lwc

  • Cyhoeddwyd
Gethin JenkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Gethin Jenkins yn herio'r Eidal yn 2010

Mae Gethin Jenkins yn gobeithio newid dihareb i "Bedwar cynnig i Gymro" ddydd Sadwrn.

Bydd y prop 31 oed yn arwain Cymru yn erbyn yr Eidal oherwydd absenoldeb Sam Warburton.

Mae wedi bod yn gapten deirgwaith o'r blaen ac mae Cymru wedi colli'r tair gêm.

Dywedodd y dyn ag 85 o gapiau i Gymru: "Dyna'r peth cynta aeth drwy 'meddwl i pan ofynnodd Gats, yr hyfforddwr, i mi - dod â'r rhediad yna i ben.

"Mae llawer o arweinwyr yn y tîm a'r garfan a dwi ddim wir wedi gwneud dim yn wahanol i'r arfer dros yr wythnosau diwethaf.

"Ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr pan y'ch chi'n ennill gemau.

"Fe allwn ni fod wedi colli un neu ddwy o'r gemau yn y Chwe Gwlad y tymor hwn ond fe wnaethon ni weithio'n galed a'u hennill."

Pwysau

Wedi buddugoliaethau dros Iwerddon, Yr Alban a Lloegr, mae'n cyfadde' bod pwysau ar Gymru i ennill cyn wynebu Ffrainc yng Nghaerdydd mewn gêm allai benderfynu tynged y bencampwriaeth.

"Mae pawb yn sôn am y Gamp Lawn ond fel chwaraewr rhaid i chi ond edrych ymlaen at y gêm nesa.

"Bydd Yr Eidal yn her fawr i ni - maen nhw wastad yn galed a dyma'r unig gêm yr ydym yn canolbwyntio arni."

Ond wrth i Gymru obeithio am y Gamp Lawn am y trydydd tro mewn wyth mlynedd, mae clo profiadol Yr Eidal, Marco Bortolami, wedi rhybuddio'i gydwladwyr y gallai Cymru danio ar ddechrau'r gêm.

'Creu argraff'

Dywedodd: "Rwy'n siŵr y bydd Cymru'n meddwl am orffen y gwaith yn yr hanner cyntaf cyn ymlacio am weddill y gêm.

"Bydd yr 20 munud cyntaf yn galed gyda phob un yn ceisio sgorio cais o bob rhan o'r cae ond rhaid i ni ddelio gyda hynny.

"Yn sicr nhw yw'r ffefrynnau ond rydym yn teithio i Gaerdydd yn gobeithio creu argraff, ac wedi perfformiad siomedig yn erbyn Iwerddon rydym yn gobeithio gwneud cyfiawnder â'n hunain."

Er i'r Eidal guro Cymru ddwywaith yn y bencampwriaeth - yn 2003 a 2006 - dydyn nhw erioed wedi ennill yng Nghaerdydd er bod gêm gyfartal yn 2006.

Cymru v. Yr Eidal: Stadiwm y Mileniwm, ddydd Sadwrn, Mawrth 10 am 2:30pm.

Tîm Cymru :-

15. Leigh Halfpenny (Gleision)

14. Alex Cuthbert (Gleision)

13. Jonathan Davies (Scarlets)

12. Jamie Roberts (Gleision)

11. George North (Scarlets)

10. Rhys Priestland (Scarlets)

9. Mike Phillips (Bayonne)

1. Gethin Jenkins (Gleision)

2. Matthew Rees (Scarlets)

3. Adam Jones (Gweilch)

4. Alun Wyn-Jones (Gweilch)

5. Ian Evans (Gweilch)

6. Dan Lydiate (Dreigiau)

7. Justin Tipuric (Gweilch)

8. Toby Faletau (Dreigiau)

Eilyddion :-

Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol