£4m i ddatblygu twristiaeth
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun £4 miliwn i ddatblygu Meirionnydd yn ganolfan ragoriaeth gweithgareddau awyr agored yn denu mwy o ymwelwyr, medd Cyngor Gwynedd.
Nod Eryri, Un Antur Fawr yw datblygu adnoddau mewn pedair canolfan, gan gynnwys llwybrau beicio mynydd ac adnoddau ymwelwyr yng Nghoed-y-Brenin, Dolgellau ac Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog, llety ac adnoddau yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, a gwella adnoddau pysgota yn Llyn Trawsfynydd.
Bydd y cynllun, gafodd arian o'r Gymuned Ewropeaidd, yn ceisio annog busnesau lleol i fanteisio ar y farchnad antur awyr agored drwy weithio gyda'r canolfannau.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio'r Economi a Chymunedau Cyngor Gwynedd: "Bydd yr adnoddau newydd yn y pedwar safle yn galluogi busnesau lleol eraill i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau ychwanegol, gan greu cyfleoedd gwaith ac economaidd."
Fe fydd busnesau'n mynd i gyfres o ddigwyddiadau y mis hwn er mwyn canfod sut i ychwanegu gwerth i'w busnesau.
Catalydd
Mae gan y cynllun sawl nod:-
- Defnyddio asedau naturiol De Eryri i sefydlu canolfan weithgareddau integredig fel catalydd i ddatblygu twristiaeth ymhellach;
- Annog y gymuned i fod yn rhan o ddatblygu gweithgareddau awyr agored yn Ne Eryri er mwyn sicrhau budd economaidd i'r boblogaeth leol;
- Darparu profiadau a chyfleoedd i ymwelwyr a thrigolion gydol y flwyddyn;
- Cefnogi datblygu'r sector awyr agored er mwyn cadw Eryri yn gyrchfan o safon byd eang ar gyfer gweithgareddau awyr agored;
- Gosod cynaliadwyedd yng nghanol y gweithgareddau gyda phwyslais ar gymunedau'r ardal.
Y partneriaid eraill yw Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Bysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2011