Cwmni Yes Loans yn colli trwydded
- Cyhoeddwyd

Gallai un o froceriaid benthyciadau mwyaf y DU, Yes Loans, fynd allan o fusnes wedi i gorff rheoleiddio'r diwydiant ganfod eu bod yn euog o "ymarferion twyllodrus a gormesol".
Mae'r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) wedi tynnu trwydded y cwmni yn ôl, gan eu hatal rhag gwerthu benthyciadau.
Dywedodd yr OFT bod cwsmeriaid wedi gorfod talu ffioedd wedi iddyn nhw roi manylion cardiau credyd ar gyfer "profion adnabod".
Dywedodd Yes Loans eu bod yn ystyried apelio ac y byddai'r cwmni yn parhau i fasnachu.
Ond dywedodd David Fisher o'r OFT: "Byddwn yn cymryd camau penderfynol i daclo busnesau sy'n methu trin pobl yn iawn, yn enwedig pobl fregus."
Camarwain
Fel brocer credyd roedd Yes Loans, sydd â'u pencadlys yng Nghwmbrân, i fod i gysylltu pobl oedd yn chwilio am fenthyciad gyda chwmnïau fyddai'n darparu benthyciad ansicredig.
Mae'r OFT, a fu'n ymchwilio i Yes Loans am beth amser, wedi canfod bod y cwmni wedi camarwain rhai cwsmeriaid i gredu eu bod yn rhoi'r benthyciad eu hunain yn hytrach nag ymddwyn fel brocer.
Bu'r cwmni yn cymryd ffioedd o gardiau credyd pobl heb ddweud y byddai ffi yn daladwy, ac yna'n methu talu'r arian yn ôl yn brydlon.
Mewn rhai achosion, ni chafodd cwsmeriaid y benthyciadau yr oeddent am gael, ond yn hytrach gynnyrch llog uchel tymor byr.
'Ddim yn gymwys'
Dywedodd llefarydd ar ran yr OFT: "Er gwaethaf newidiadau gan y cwmni, penderfynodd yr OFT bod y cwmni'n parhau i fod yn rhan o ymarferion twyllodrus a gormesol, ac roedd presenoldeb parhaus rhai o'r staff oedd yn gyfrifol am redeg y busnes yn golygu nad ydynt yn gymwys i gael trwydded credyd cwsmer."
Mae dau fusnes cysylltiedig arall - Blue Sky Personal Finance Limited a Money Worries Limited - hefyd wedi colli eu trwyddedau.
Mae gan y cwmnïau 28 niwrnod i apelio yn erbyn penderfyniad yr OFT, ac maent yn cael parhau i fasnachu yn ystod y cyfnod yna.
Apêl?
Dywedodd llefarydd ar ran y busnesau eu bod "yn drist a siomedig" am benderfyniad yr OFT.
"Rydym i gyd wedi gweithio'n galed i weithredu gwelliannau sylweddol a sylfaenol i'r busnesau," meddai.
"Rydym yn siomedig bod yr OFT, er gwaetha' hyn, wedi penderfynu tynnu trwyddedau tri busnes yn ôl.
"Rydym ar hyn o bryd yn cael cyngor o safbwynt cyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad. Does dim swyddi yn y fantol o fewn y tri chwmni waeth beth fydd canlyniad unrhyw apêl."
Ychwanegodd y gallai staff symud i gwmnïau eraill ar y safle.
Dywedodd y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol bod 83% o gwynion a wnaed am Yes Loans yn ystod chwe mis olaf 2011 wedi cael eu cadarnhau o blaid y cwsmer.
Fe wnaethon nhw ymchwilio i 133 o gwynion am Yes Loans yn 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2011