Mwy yn gofyn am gymorth oherwydd eu bod yn ddigartref

Person digartref Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Shelter Cymru: "Mae 'na ddiwylliant 'popeth neu ddim byd' o ran digartrefedd"

Fe wnaeth dros 15,000 o bobl ofyn am gymorth am eu bod yn ddigartref yng Nghymru yn 2011 - cynnydd o 11% ar y flwyddyn flaenorol.

O'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dywedodd 18 wrth BBC Cymru eu bod wedi profi cynnydd yn y nifer oedd yn gofyn am gymorth.

Abertawe oedd â'r nifer fwyaf o bobl ddigartref fel canran o'i phoblogaeth, sef 1.27% gyda Sir y Fflint â'r isaf, 0.07%.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fe wnaeth prinder tai fforddiadwy ac anhawster pobl ifanc i gael morgeisi gyfrannu at y cynnydd.

£4 miliwn

Daeth y ffigyrrau i law BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011 fe wnaeth cynghorau dalu bron i £4 miliwn er mwyn darparu llety ar frys ar gyfer pobl oedd am gymorth, er y bydd peth o hyn wedi ei hawlio yn ôl gan gynghorau ar ffurf budd-daliadau tai.

"Mae pobl ddigartref yn teimlo y dylai adnoddau gael eu hail ddosbarthu a'u defnyddio mewn ffordd well," meddai Jennie Bibbings o elusen Shelter Cymru.

"Mae 'na ddiwylliant 'popeth neu ddim byd' o ran digartrefedd.

"Naill ai rydych yn flaenoriaeth o ran eich anghenion, ac felly yn cael tenantiaeth gymdeithasol, neu dydych chi ddim yn flaenoriaeth, ac yn cael dim byd."

Ychwanegodd bod pobl weithiau dim ond angen cymorth i ddod o hyd i le yn y sector rhent preifat.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod digartrefedd yn flaenoriaeth i gynghorau.

"Ers 2004 mae awdurdodau lleol wedi bod yn fwy effeithiol yn ceisio atal digartrefedd ond mae cynghorau wedi gweld cynnydd yn y rhai sy'n gofyn am gymorth," meddai llefarydd.

"Mae'r rhesymau yn gymhleth gyda'r problemau sylfaenol yn ymwneud a diffyg tai fforddiadwy a diffyg tai.

"Mae teuluoedd ifanc yn benodol yn ei chael yn anodd cael morgeisi i brynu eu tai eu hunain, gyda'r cyfartaledd oed prynwyr cyntaf yn 37 oed."

Ychwanegodd bod dros 90,000 o bobl ar restr aros cynghorau am le ar rent neu am gartref gan gymdeithasau tai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra bod cwrdd ag anghenion tai lleol yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol, rydym yn gwneud popeth posib i leddfu'r effeithiau.

"Eleni mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £7.3 miliwn ar gyfer Grant Digartrefedd a £139.2 miliwn ar ariannu Cefnogi Pobol".

Digartrefedd yn ôl awdurdod lleol
Cyngor Nifer yn ceisio am help 2010/11 Nifer yn ceisio am help 2009/10 % o'r boblogaeth yn ceisio am help 2010/11
Abertawe 2,945 2,743 1.27%
Blaenau Gwent 265 (tua) 255 0.39%
Bro Morgannwg 324 275 0.26%
Caerdydd 2,020 1,541 0.59%
Caerffili 484 392 0.28%
Caerfyrddin 1,494 1,500 0.83%
Casnewydd 507 455 0.36%
Casetell-nedd Port Talbot 1,720 1,692 1.25%
Ceredigion 249 220 0.32%
Conwy 550 445 0.50%
Dinbych 210 209 0.22%
Fflint 105 101 0.07%
Gwynedd 611 545 0.51%
Merthyr Tudful 455 426 0.82%
Mynwy 207 233 0.23%
Penfro 674 611 0.58%
Pen-y-bont ar Ogwr 501 665 0.37%
Powys 564 318 0.43%
Rhondda Cynon Taf 428 276 0.18%
Torfaen 422 399 0.47%
Wrecsam 657 301 0.23%
Ynys Môn 288 281 0.42%

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.