Noson siomedig i nofwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Jazz Carlin yn dioddef gyda salwch
Ni fydd Jazz Carlin o Abertawe yn cystadlu yn rownd derfynol y ras 800 metr ym mhencampwriaethau Prydain nos Wener oherwydd salwch.
Ac mae hi wedi bod yn noson siomedig i ddau Gymro arall, Ieuan Lloyd a Marco Loughran nos Iau, y ddau yn colli eu rasus nhw.
Ond mae'r Gymraes Georgia Davies wedi sicrhau ei lle yn rownd derfynol y ras dau can metr dull cefn i fenywod ddydd Gwener.
Yn y pwll Olympaidd yn Llundain nos Fercher, fe ddaeth Jemma Lowe o Abertawe yn ail yn y ras dros 200 metr yn y dull Pili Pala.
Straeon perthnasol
- 7 Mawrth 2012
- 5 Mawrth 2012
- 29 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol