Chwarae i Gymru nid Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Steve ShinglerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Shingler yn chwarae i glwb Gwyddelod yn Llundain

Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi penderfynu mai dim ond i Gymru y gall Steven Shingler chwarae nid i'r Alban.

Roedd canolwr 20 oed clwb y Gwyddelod yn Llundain yng nghanol dadl ddechreuodd cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan yr Alban ond roedd Cymru'n gwrthwynebu hyn gan iddo chwarae i dîm dan-20 Cymru.

Ym Mai bydd y bwrdd yn trafod diddymu hawl gwledydd i ddefnyddio timau dan-20 er mwyn sicrhau cymhwysedd chwaraewyr ar gyfer gemau prawf.

Adolygu

Cafodd enw Shingler - y cafodd ei fam ei geni yn Yr Alban - ei gynnwys yng ngharfan wreiddiol yr Alban ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi dadlau mai dim ond iddyn nhw y dylai chwarae gan iddo chwarae i'r tîm dan-20 yn erbyn Ffrainc yn 2011.

Roedd asesiad gwreiddiol y bwrdd yn cadarnhau hynny ond fe gafodd yr achos ei adolygu ar gais Undeb Rygbi'r Alban.

Yn dilyn gwrandawiad yn Nulyn ar Chwefror 27 dywedodd datganiad panel rheolau'r bwrdd: "Er nad oedd Shingler wedi arwyddo ffurflen gymhwysedd, roedd wedi cael ei hysbysu'n llawn gan Undeb Rygbi Cymru y byddai chwarae yn y gêm yn erbyn Ffrainc i'r tîm dan-20 yn golygu bod cysylltiad rhyngddo â Chymru."

Pwysleisiodd y panel fod gan gyngor llawn y bwrdd yr hawl i wrthdroi'r penderfyniad ac y dylid adolygu'r cysylltiad rhwng chwaraewyr timau dan-20 a gwledydd.

Bydd cyfarfod cyngor llawn y bwrdd ar Fai 15.

'Dymuniad diffuant'

Dywedodd datganiad Undeb Rygbi'r Alban: "Rydym yn parhau'n gefnogol i Steven Shingler, chwaraewr ifanc dawnus sydd wedi mynegi ei ddymuniad diffuant i gynrychioli'r Alban.

"Rydym yn aros i weld penderfyniad ysgrifenedig llawn panel rheolau'r bwrdd ac efallai y byddwn yn gwneud sylw pellach bryd hynny."

Chwaraeodd brawd hŷn Shingler, Aaron, ei gêm gyntaf i Gymru yn ystod y fuddugoliaeth o 27-23 yn erbyn Yr Alban ym mis Chwefror.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol