Dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yn Abergele
Mae dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar gyrion Abergele.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar yr A457 rhwng car BMW du a fan Vauxhall gwyn.
Aed â phedwar o bobl i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar ôl y gwrthdrawiad ddigwyddodd am 2.15pm ddydd Iau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i gysylltu gyda PC Lightfoot yn yr uned rheoli traffig ar 101.