'Tasg amhosib' i guro Cymru yn ôl capten Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae capten Yr Eidal, Sergio Parisse, wedi dweud bod ei dîm yn wynebu tasg "amhosib" yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Yn ôl Parisse, roedd perfformiad Yr Eidal yn destun embaras o bryd i'w gilydd yn erbyn Iwerddon.
"Fe wnaethon ni faeddu Cymru yn 2007 yn Rhufain, ond mae'n anodd ein gweld yn maeddu Cymru gan eu bod yn chware'n wych ar hyn o bryd," meddai wrth y BBC.
"Mae ennill yn Stadiwm y Mileniwm yn amhosib i ni fwy na thebyg.
"Bydd rhaid i bob un ohonom roi ein perfformiad gorau eleni er mwyn maeddu Cymru.
"Dwi'n credu bod Cymru yn ein parchu."
Gethin Jenkins fydd yn arwain tîm Cymru wrth i gapten y garfan, Sam Warburton, barhau i ddioddef gydag anaf i'w ben-glin.
Bydd Jenkins, prop Y Gleision, yn ennill ei 86fed cap ac yn arwain Cymru am y trydydd tro wedi iddyn nhw ennill eu tair gêm gynta' yn y Bencampwriaeth, a dim ond pythefnos o gemau ar ôl.
Yn un o ddau newid ymysg y blaenwyr i'r tîm ddechreuodd yn erbyn Lloegr, gan ennill y Goron Driphlyg yn Twickenham fis diwetha', bydd Justin Tipuric (Gweilch) yn cymryd lle Warburton, gan ennill ei bedwerydd cap a dechrau am y tro cynta' i Gymru.
Cymru: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Gethin Jenkins (C), Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Toby Faletau
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams
Cymru v Yr Eidal, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd:Dydd Sadwrn,Mawrth 10,2.30pm.
Straeon perthnasol
- 6 Mawrth 2012