Dau yn cynnig cymorth i daclo gwastraff gwm cnoi
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson amlwg o fyd y campau yng Nghymru yn rhan o ymgyrch i annog pobl i leihau faint o gwm cnoi a gaiff ei ollwng ar strydoedd y brifddinas.
Mae Jamie Baulch, cyn-athletwr sbrint Olympaidd, a'r nofiwr Paralympaidd, David Roberts, yn cefnogi ymgyrch Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â The Chewing Gum Action Group (CGAG) a Trefi Taclus.
Dydd Gwener mae'r ddau yn ymuno â Thîm Addysg Gwastraff y Cyngor mewn sioe deithiol ar Heol Y Frenhines rhwng 10am a 4pm.
Y bwriad yw addysgu pobl am leihau gwastraff gwm cnoi a phwysigrwydd cadw strydoedd a phalmentydd yn lân a thaclus.
10c
Ar gyfartaledd mae'n costio 10c i lanhau pob darn o wm cnoi o'n palmentydd.
Bydd dros 3,000 o bapurau gwm cnoi yn cael eu dosbarthu i annog pobl i lapio eu gwm a'i daflu i'r bin, a bydd swyddogion gorfodi yno hefyd.
Mae Trefi Taclus yn fenter ar y cyd rhwng Cadwch Gymru'n Daclus ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw newid agwedd y cyhoedd tuag at ollwng sbwriel a'u hannog i ddelio â sbwriel mewn ffordd gyfrifol.
Mae CGAG yn helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â sbwriel gwm cnoi drwy ddarparu'r adnoddau i gynllunio, lansio, gweithredu a monitro ymgyrchoedd lleol.
Fe'i lansiwyd yn 2003 gyda'r bwriad o gael datrysiad hirdymor i waredu gwm cnoi yn anghyfrifol.
'Newid agweddau'
"Amcan yr ymgyrch yw newid agweddau a gwneud yn siŵr bod pobl yn deall pwysigrwydd gwaredu gwm cnoi yn gyfrifol yn hytrach na'i daflu ar lawr, sydd ddim gwahanol i ollwng sbwriel arall ar lawr," meddai'r Cynghorydd Margaret Jones, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd.
Gall swyddogion gorfodi roi dirwyon i bobl yn y fan a'r lle, os byddan nhw'n eu gweld yn gollwng sbwriel, yn cynnwys gwm cnoi.
Bydd methu â thalu'r ddirwy yn arwain at baratoi erlyniad a allai arwain at ddirwy o hyd at £2,500.
"Byddwn yn dal i arwain yr ymgyrch yn erbyn sbwriel wrth weithio tuag at ddinas lanach ac annog cyfrifoldeb cymdeithasol," ychwanegodd y Cynghorydd Jones.
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2006