Gweithiwr gofal yn Wrecsam yn euog o gamymddwyn
- Cyhoeddwyd
Mae enw gweithiwr gofal cartref wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl iddi gael ei dyfarnu'n euog o gamymddwyn.
Cafodd Sharon Owen, a gyflogwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei dyfarnu'n euog o dorri'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl iddi ddwyn gan ddefnyddiwr gwasanaethau a derbyn rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru.
Fe wnaeth Pwyllgor Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru gynnal gwrandawiad yng Nghaerdydd.
Roedd Ms Owen, a gyfaddefodd ei bod wedi dwyn gan ddefnyddiwr gwasanaethau yn ei gofal ar ddau achlysur yn ystod ymchwiliadau'r heddlu a'r cyflogwr, yn absennol o'r gwrandawiad.
Torri'r cod
Penderfynodd y pwyllgor fod Ms Owen wedi torri tair rhan o'r Cod Ymarfer sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol; sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr; a bod yn atebol am safon eu gwaith a chymryd cyfrifoldeb am gynnal a gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Wrth wneud y penderfyniad, fe wnaeth y pwyllgor ystyried y camau a gymerodd Ms Owen i ad-dalu'r swm a gafodd ei ddwyn ac anfon llythyr o ymddiheuriad at y defnyddiwr gwasanaethau.
Wrth gyflwyno'r penderfyniad, nododd y pwyllgor fod ymddygiad Ms Owen wedi tanseilio hyder y defnyddiwr gwasanaethau a'i deulu yn y rhai a oedd yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol iddo ac y gallai danseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
Penderfynwyd ni fyddai cosb ysgafnach yn ddigonol i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau rhag y posibilrwydd y byddai Ms Owen yn ymddwyn yn anonest eto, ac ni fyddai chwaith yn sicrhau bod hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal.