Cwiltiau'n cysylltu Cymru a'r Amish
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa newydd yn dod â chwiltiau traddodiadol Cymraeg a chwiltiau Amish, ar fenthyg gan yr Amgueddfa Americanaidd yng Nghaerfaddon, at ei gilydd.

Mae Jen Jones, trefnydd yr arddangosfa, yn casglu cwiltiau traddodiadol a daeth o hyd i'r cwilt yma, sydd yn dyddio o tua 1880, mewn sach sbwriel wedi ei daflu i’r beudy, wedi cael ei ystyried yn 'hen beth trwm'.
Dyma'r steil o gwilt Amish sydd, yn weledol o leiaf, yn ymdebygu fwyaf i gwiltiau Cymreig. Roedd sir Lancaster yn Pennsylvania America yn un o'r ardaloedd lle'r ymfudodd y Cymry a'r Amishiaid, ac mae'n rhaid bod y cyfochri wedi arwain at groes ffrwythloni.
Cynlluniwyd y cwilt yma gan Ada Jones, Talybont, Llanybydder, yn 1911, ac fe'i basiwyd lawr drwy'r teulu
Mae'r cwilt yma, o sir Lancaster yn Pennsylvania, yn esiampl o gwilt nodweddiadol Amish cynnar.
Mae'r arddangosfa yn hen neuadd y dref Llanbedr Pont Steffan o ddydd Sadwrn Mawrth 10 tan Dachwedd 10