Perfformiad oratorio newydd gan Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn
- Cyhoeddwyd

Bydd oratorio gan y cyfansoddwr Pwyll ap Siôn yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf erioed yng Nghaernarfon nos Lun.
Comisiynwyd Gair ar Gnawd gan Opera Cenedlaethol Cymru (OCC).
Ysgrifennwyd geiriau'r oratorio gan y bardd Menna Elfyn ac roedd pob ymarfer yn Gymraeg - y tro cyntaf i'r cwmni wneud hyn.
Adroddiad Rhian Price
Bydd y prif rannau yn cael eu canu gan ddau aelod o Gorws OCC, sef Siân Meinir (Awen) a Philip Lloyd Evans (Anwar).
Hefyd bydd côr o 40 o gantorion o'r gymuned leol yn canu yn y ddrama operatig gyfoes.
Byd gwell
Mae Gair ar Gnawd yn adrodd stori am ymrafael tebyg i Dafydd a Goliath rhwng datblygwyr casino mawr a chymuned leol sydd â'u bywoliaeth yn cael ei bygwth.
"Mae'n ymwneud ag iaith, ardal, hunaniaeth a'r hyn rydyn ni'n credu ynddo," meddai Pwyll ap Siôn.
"Ond mae hefyd yn ymwneud â phobl yn dod ynghyd ac yn gweithio i wneud y byd yn lle gwell.
"Mae hyn i gyd yn digwydd drwy ddau brif gymeriad, Awen, sy'n datŵydd ac Anwar, sydd wedi cyfieithu'r Beibl i bob iaith yn y byd."
Bydd Gair ar Gnawd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf erioed yn Galeri nos Lun Mawrth 12 am 7.30pm, perfformiad fydd yn cael ei noddi gan Pendine Park, y sefydliad gofal.
Dydd Sul Mawrth 18 bydd cyfle arall i weld y cynhyrchiad yn Y Stiwt, Wrecsam am 5pm.