Y nofiwr David Davies yn ennill ei ras

  • Cyhoeddwyd
David DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd David Davies ei ras a bydd yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn

Mae David Davies gam yn nes at sicrhau ei le yn y Gemau Olympaidd ar ôl ennill y ras 1500m yn y treialon Prydeinig ddydd Gwener.

Enillodd Davies y ras mewn amser o 15:19.80, i gyrraedd y rownd derfynol fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.

Ond methodd y Cymro Marco Loughran, 22 oed, gyrraedd y Gemau Olympaidd ar ôl dod yn ail yn y ras 200m ddull cefn.

Yn ddiweddarach ddydd Gwener fy fydd y Gymraes Georgia Davies yn cystadlu yn rownd derfynol y ras 200 metr dull cefn i fenywod.

Ni fydd Jazz Carlin o Abertawe yn cystadlu yn rownd derfynol y ras 800 metr ym mhencampwriaethau Prydain nos Wener oherwydd salwch.

Roedd noson siomedig i ddau Gymro arall, Ieuan Lloyd a Marco Loughran nos Iau, y ddau yn colli eu rasys nhw.

Yn y pwll Olympaidd yn Llundain nos Fercher, fe ddaeth Jemma Lowe o Abertawe yn ail yn y ras dros 200 metr yn y dull Pili Pala.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol