Sam Warburton yn ansicr a fydd ar gael i wynebu Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Mae capten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton, wedi cyfaddef mai cael a chael fydd hi iddo fod yn holliach erbyn i Gymru wynebu Ffrainc ar Fawrth 17.
Cafodd y blaenasgellwr anaf i dennyn ei ben-glin yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr ar Chwefror 25, ac ni fydd ar gael i wynebu'r Eidal ddydd Sadwrn.
"Fydda' i ar gael i wynebu Ffrainc? Cael a chael fydd hi," meddai mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Daily Telegraph.
"Ond fe fyddaf yn gwneud popeth posib. Rhaid i mi fod yn hunanol ac aros oddi ar y goes cymaint â phosib."
Absennol
Justin Tipuric fydd yn llenwi'r bwlch yn y rheng ôl yn erbyn Yr Eidal, gyda Gethin Jenkins yn gapten.
Dyma'r ail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni i Warburton fethu - roedd yn absennol o'r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban oherwydd anaf gwahanol a gafodd yn erbyn Iwerddon.
Yn rhyfedd iawn, mae hynny'n golygu nad yw Warburton wedi bod yn gapten ar ei wlad erioed yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae'r hyfforddwr Warren Gatland wedi awgrymu y gallai fod amheuaeth am ffitrwydd Warburton ar gyfer y gêm allai benderfynu'r Bencampwriaeth a'r Gamp Lawn i Gymru, gan ddweud y byddai'n "rhaid aros i wel" os fydd Warburton wedi gwella mewn pryd.
'Na pendant'
Ychwanegodd Warburton: "Fe holais i'r ddau ffisiotherapydd - Prav Mathema a Mark Davies - ar ddechrau'r wythnos a gofyn: pe bai hon y gêm olaf yn bencampwriaeth a phopeth yn dibynnu arni, a fyddwn i'n medru chwarae? Yr ateb oedd na pendant iawn.
"Rwy'n medru cerdded heb boen a gwneud llawer o ymarferion yn y gampfa, ond nid unrhyw beth sy'n golygu symudiad ffrwydrol neu newid cyfeiriad yn gyflym.
"Yn syth wedi'r gêm (yn erbyn Lloegr) fe welais i ein llawfeddyg, Rhys Williams, ac fe wnaeth gadarnhau mai ysigiad gradd un i dennyn canol y ben-glîn sydd gen i.
"Gofynnais faint o amser fyddai'n hynny'n cymryd i wella, ac fe ddywedodd ei bod yn dibynnu ar sut hwyl fyddwn i'n cael gyda'r adferiad."
Tîm Cymru:
15. Leigh Halfpenny (Gleision)
14. Alex Cuthbert (Gleision)
13. Jonathan Davies (Scarlets)
12. Jamie Roberts (Gleision)
11. George North (Scarlets)
10. Rhys Priestland (Scarlets)
9. Mike Phillips (Bayonne)
1. Gethin Jenkins (Gleision)
2. Matthew Rees (Scarlets)
3. Adam Jones (Gweilch)
4. Alun Wyn-Jones (Gweilch)
5. Ian Evans (Gweilch)
6. Dan Lydiate (Dreigiau)
7. Justin Tipuric (Gweilch)
8. Toby Faletau (Dreigiau)
Eilyddion :-
Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012