Carcharor yn cael siarad Cymraeg wedi i reol gael ei llacio
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Carchardai wedi cadarnhau eu bod wedi llacio cyfyngiadau ar garcharor a gafodd ei atal rhag siarad Cymraeg ar y ffôn gyda'i deulu.
Rhybuddiwyd Martin Tate, 25 oed o Gaernarfon, y dylai siarad Saesneg ar y ffôn gyda'i deulu oni bai ei fod yn rhoi rhybudd o 48 awr i'r awdurdodau fedru darparu cyfieithydd.
Mae o wedi ei garcharu am 16 mis yng Ngharachar Holme House yn Stockton-on-Tees, ger Middlesbrough, am ddwyn cerbyd.
Roedd ei deulu wedi cysylltu gyda'i AS lleol a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
'Mesur diogelwch'
Dadl y Weinyddiaeth Gyfiawnder oedd bod angen y rhybudd er mwyn darparu'r adnoddau cyfieithu i'r staff sy'n monitro'r galwadau.
Ond roedd Bwrdd yr Iaith wedi dweud bod hyn "yn annerbyniol".
Yn ôl teulu'r carcharor roedd galwadau yn cael eu torri pan oedd Tate yn ceisio siarad Cymraeg, er mai dyma ei iaith gyntaf a'r iaith y byddai'n cyfathrebu gyda'i deulu.
Fe wnaeth llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchar gadarnhau ddydd Gwener bod y rheol wedi ei llacio ar gyfer carcharorion Cymraeg eu hiaith sydd ddim yn risg diogelwch.
Ond ychwanegodd y byddai'r rheol yn parhau mewn grym lle bo angen.
"Mae 'na fesur diogelwch llym mewn lle i fonitro galwadau carcharorion," meddai'r llefarydd.
"Diogelwch y cyhoedd yw'r flaenoriaeth."
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2012