Delweddau: Arestio cyn gynghorydd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn gynghorydd yn ardal Abertawe wedi cael ei arestio yn Lloegr ar amheuaeth o fod â delweddau o gam-drin plant yn ei feddiant.
Roedd Alan Jopling yn cynrychioli ardal ward Penyrheol fel cynghorydd annibynnol ar Gyngor Abertawe cyn iddo symud i fyw i ogledd-orllewin Lloegr.
Cadarnhaodd Heddlu Sir Gaerhirfryn eu bod wedi arestio dyn 51 oed o ardal Chorley ar amheuaeth o fod â delweddu anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tan Fawrth 19.