Tad yn cyfaddef achosi marwolaeth mab
- Cyhoeddwyd

Mae tad wedi pledio'n euog i achosi damwain a laddodd ei fab pump oed.
Roedd Bailey Alan Evans yn eistedd yn sedd flaen y car Citroen Saxo pan fu mewn gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng ym mis Mai 2011.
Wrth ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, plediodd tad y bachgen, Alan Lloyd Paul Evans, yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Bydd Evans, 34 oed o Wrecsam, yn cael ei ddedfrydu'r mis nesaf.
Adroddiadau
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ddarn o'r ffordd rhwng Y Trallwng a Chroesoswallt rhwng car Evans a char Nissan Qashqai.
Dioddefodd y bachgen anafiadau difrifol, a bu farw yn y fan a'r lle.
Cafodd cwest ar Bailey, o Lanwnnog ger Caersws, ei agor a'i ohirio wrth i'r ymchwiliad troseddol i'r digwyddiad gael ei gwblhau.
Gofynnodd bargyfreithiwr y diffynnydd, David Potter, am adroddiad i gael ei baratoi cyn dedfrydu ynghyd ag adroddiad seiciatryddol "oherwydd yr effaith ddinistriol y mae'r achos hwn wedi ei gael ar y diffynnydd".
Ychwanegodd y byddai'n ddedfryd anodd iawn a fyddai'n cymryd cryn dipyn o amser.
Gorchmynnodd y Barnwr Philip Richards waharddiad gyrru ar Evans, ac fe ganiataodd fechnïaeth wrth i'r adroddiadau gael eu paratoi.
Dywedodd wrth Evans: "Yn amlwg mae hon yn sefyllfa drasig, ond hefyd yn un difrifol iawn.
"Bydd pob dewis o ddedfryd yn cael eu hystyried."
Straeon perthnasol
- 14 Rhagfyr 2011
- 15 Mai 2011