Saethu: Tri dyn gerbron ynadon

  • Cyhoeddwyd
Yr Heddlu yn RhydyclafdyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd heddlu eu galw i'r ffermdy ger Rhydyclafdy ar Ragfyr 15, 2011

Mae tri dyn wedi ymddangos gerbron ynadon i wynebu cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad lle cafodd dyn ei saethu yn ei goes.

Cafodd Steven Evans, 19 o Flaenau Ffestiniog, a Luke Evans, 18 oed o Bwllheli, eu cyhuddo o ddwyn, ac fe gawson nhw'u cadw yn y ddalfa gan ynadon Caernarfon cyn ymddangos yn Llys y Goron yn ddiweddarach y mis hwn.

Mewn gwrandawiad ar wahân, dywedodd yr ynadon eu bod am ganiatáu mechnïaeth i Liam Roberts, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, ond mae'r erlyniad yn bwriadu apelio yn erbyn hynny, ac mae yntau hefyd yn y ddalfa.

Honnir i'r tri ddwyn eiddo oedd yn cynnwys sawl gwn, llawddryll o'r 19eg ganrif a swm o arian o gartref William Ward-Jackson, 55 oed, yn Rhydclafdy ger Pwllheli ar Ragfyr 15 y llynedd.

Roedd ail gyhuddiad o fwrgleriaeth difrifol yn Chwilog ar Ragfyr 20 pan oedd ganddynt ddryll.