Pencampwriaeth Byd i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cwrs canwio a rafftio CaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Agorodd y ganolfan yng Nghaerdydd yn 2010

Mae tocynnau yn awr ar werth ar gyfer Cwpan Slalom Canŵ'r Byd 2012, sy'n cael ei gynnal rhwng Mehefin 8 a 10 yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Dyma Gwpan y Byd gyntaf i'w dyfarnu gan y Ffederasiwn Rhyngwladol Canŵio (ICF) i Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd a agorodd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2010.

Mae Canŵ Caerdydd 2012 yn gyfle i weld arwyr byd-enwog o fyd y chwaraeon, gan gynnwys timau fydd yn cystadlu yn Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Bydd safle gwylio wedi cael ei adeiladu i wylio'r cystadlu, ar gwrs cyffrous a bywiog, yn cynnwys 25 o giatiau, drwy ddŵr gwyn cyflym.

Bydd cyfle hefyd i ymweld â stondinau yn y pentref chwaraeon gyda'r diweddaraf mewn offer a dillad chwaraeon dŵr.

Gyda dros 38 o wledydd yn cystadlu, Cyfres Cwpan y Byd yw'r digwyddiad pwysicaf i Ganŵ-wyr Slalom Proffesiynol, yn ogystal â bod yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Slalom Canŵ yn y calendr ar gyfer y cystadleuwyr a'r gwylwyr.

Ysbrydoliaeth

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Nigel Howells:

"Rwyf wrth fy modd bod Caerdydd yn cynnal Cwpan y Byd Slalom Canŵ eleni. Bydd y gwylwyr yn cael cyfle i weld chwaraeon dŵr o'r safon uchaf yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, sydd o safon Olympaidd.

"Gweithiodd y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn agos iawn i sicrhau y byddai Cwpan y Byd Slalom Canŵ yn dod i Gaerdydd.

"Mae'r ddinas wedi dangos dro ar ôl tro ein bod ni'n gallu cynnal digwyddiadau o safon fyd-eang, ac mae'r Ganolfan Dŵr Gwyn yn denu cynulleidfa chwaraeon newydd sbon i'r ddinas.

"Beth sy'n wych yw y gall unrhyw un sy'n gwylio'r gamp a chael eu hysbrydoli, a phrofi cyffro'r dŵr gwyn.

"Mae'n hyfryd gweld pobl o bob gallu'n defnyddio'r cyfleusterau, o ddechreuwyr i gystadleuwyr Olympaidd proffesiynol."

Mae'r cyfleuster dŵr gwyn yn y Ganolfan Chwaraeon Ryngwladol yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon dŵr o rafftio dŵr gwyn i ganŵio a chaiacio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol