Cofeb ym Mhowys er cof am dditectif preifat
- Cyhoeddwyd

Mae cofeb wedi ei gosod mewn eglwys ym Mhowys er cof am dditectif preifat o Gymru gafodd ei lofruddio yn Llundain chwarter canrif yn ôl
Fe gafodd Daniel Morgan ei ladd â bwyell y tu allan i dafarn yn Llundain yn 1987. Roedd yn 37 oed ac o Lanfrechfa ger Cwmbrân.
Mae ei fedd yn Llundain ond roedd ei fam oedrannus eisiau cofeb yn agosach i'w chartref yn y Gelli Gandryll.
Er bod yna pum ymchwiliad wedi cynnal i'w lofruddiaeth ni chafwyd unrhyw un yn euog.
'Gwaith blinedig'
Fe wnaeth mam Mr Morgan, Isobel Hulsmann, 84 oed, a'i merch Jane Royds sy'n byw yn Y Clas-ar-Ŵy osod y gofeb yn eglwys Y Clas-ar-Ŵy.
"Byddant yn dod a blodau i osod ar y gofeb ddydd Sadwrn," meddai brawd Mr Morgan, Alastair sy'n byw yn Llundain.
"Roedden nhw am gael rhywle agos er cof am Daniel a chafodd y gofeb ei gosod ychydig ddyddiau yn ôl i nodi 25 mlynedd ers ei farwolaeth.
"Mae fy mam yn 84 ac mae teithio yn ôl ac ymlaen i Lundain yn waith blinedig.
Mae'r teulu wedi galw am ymchwiliad barnwrol i lofruddiaeth Mr Morgan.
Fis diwethaf dywedodd Nick Herbert, gweinidog a chyfrifoldeb am faterion yr heddlu, fod yr Ysgrifennydd Cartref yn dal i ystyried a ddylid galw am ymchwiliad barnwrol.
Ond ychwanegodd Mr Herbert ei bod yn bosib y byddai math gwahanol o ymchwiliad yn fwy addas.
Ymchwiliad Leveson
Pan gafodd ei ladd roedd Mr Morgan yn gweithio gyda dyn o'r enw Jonathan Rees.
Mae cwmni Mr Rees wedi cael ei gysylltu gyda hacio honedig e-byst ac roedd Mr Rees yn un o'r pump gafodd eu cyhuddo o lofruddio Mr Morgan.
Cafodd pum dyn eu cyhuddo o'r llofruddiaeth yn 2008 ond ar ôl 18 mis o ddadleuon cyfreithiol cafodd yr achos ei ollwng ym mis Mawrth 2010.
Cafodd achos Mr Morgan ei godi yn ystod ymchwiliad Leveson i safonau'r wasg fis diwethaf gan Jacqui Hames, cyn dditectif yn Heddlu Llundain a chyn-gyflwynydd Crimewatch,
Dywedodd fod News of the World wedi bod yn cadw llygad arni hi a'i gŵr, y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dave Cook.
Roedd Mr Cook wedi bod ar raglen Crimewatch yn apelio am wybodaeth am lofruddiaeth Mr Morgan.
Dywedodd Ms Hames fod "cysylltiadau agos" rhwng Southern Investigation ac Alex Marunchak, Golygydd Materion Troseddol News of the World yn yr 80au.
Mewn datganiad dywedodd Ms Hames: "Rwy'n credu mai'r gwir reswm pam bod News of The World yn ein dilyn oedd bod y rhai dan amheuaeth yn achos Daniel Morgan yn defnyddio eu cysylltiadau gyda phapur newydd grymus er mwyn ceisio codi ofn a rhwystro'r ymchwiliad."
Dywedodd News International, perchnogion News of The World, nad oedd ganddyn nhw unrhyw sylw ynglŷn â datganiad Ms Hames wrth Ymchwiliad Leveson.
Straeon perthnasol
- 6 Rhagfyr 2011
- 18 Awst 2011
- 5 Awst 2011
- 31 Mawrth 2011
- 16 Mehefin 2009
- 17 Mehefin 2007
- 18 Ionawr 2003
- 4 Hydref 2002