Ser chwaraeon yn codi arian
- Cyhoeddwyd

Mae sêr chwaraeon a'r diwydiant adloniant o Gymru yn herio gweddill gwledydd Prydain mewn ras 1,000 o filltiroedd er mwyn codi arian i Sport Relief.
Bydd y chwaraewyr rygbi Gareth Thomas a Richard Parks, ynghyd â'r athletwr Iwan Thomas ymhlith y rhai fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth First Nation Home.
Gan ddechrau dydd Sadwrn bydd timau o Gymru, Yr Alban, Iwerddon a Lloegr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Bydd cystadlaethau yn cael eu cynnal ym mhob un o'r pedair gwlad, gan olygu 1,000 o filltiroedd o redeg, hwylio, rhwyfo a beicio.
Mae'r gystadleuaeth yn para saith niwrnod.
Bydd Tîm Cymru yn dechrau o Gastell Caerdydd am 7am ddydd Sadwrn.
Hyfforddi'n galed
Ar union yr un amser bydd timoedd y gwledydd eraill yn dechrau yn Llundain, Caeredin a Dulyn.
Dywedodd Gethin Jones, capten tîm Cymru: "Mae pawb sy'n cynrychioli Cymru wedi bod yn hyfforddi'n galed dros y misoedd diwethaf.
"Bydd hi'n wythnos galed a byddai'n wych cael cymaint o bobl a phosib i roi cymeradwyaeth ar ddechrau'r ras.
"Rydym am ddod a'r tlws yn ôl i Gymru, ond yn bwysicach oll mae hwn yn ffordd wych o gasglu arian at achosion da.
Hefyd yn cymryd rhan mae'r cyflwynwyr teledu Iolo Williams a Frances Donovan, y morwr Ed Wright, y beiciwr t Matthew Page a'r chwaraewr rygbi Dafydd James.
Bydd y tîm yn teithio 1,000 o filltiroedd gan fynd i Lerpwl, Iwerddon, yr Alban, gogledd Lloegr a Llundain.
Byddant yn dychwelyd i Gaerdydd ar Fawrth 17.
Pan fydd y cystadleuwyr yn croesi i Iwerddon o Lerpwl bydd aelodau'r tîm yn gorfod torri chwys ar beiriannu rhwyfo.
Bydd yna ras hwylio rhwng Larne yng Ngogledd Iwerddon a Stranraer.
Yn y cymal olaf bydd cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan mewn ras chwe milltir gan ddechrau o Plass Roald Dahl ym Mae Caerdydd ar ddydd Sul Mawrth 25.
Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn cael ei wario ar bobl dlawd a bregus yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill y byd.