Stiwdios newydd yn cael eu hagor
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Mae stiwdios newydd y BBC yng Nghaerdydd yn cael eu hagor yn swyddogol.
Bydd tri diwrnod o ddigwyddiadau i ddathlu'r agoriad - gyda phenllanw ddydd Llun wrth i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones agor y stiwdio yn ffurfiol.
Mae'r stiwdio ym Mhorth y Rhath wedi bod yn ffilmio ers mis Medi pan symudodd y gyfres Casualty o Fryste i Gaerdydd.
Erbyn hyn mae Pobol y Cwm a'r gyfres Upstairs Downstairs hefyd yn cael eu ffilmio yno.
Datganoli gwaith
Mae'r cyfleusterau yn cynnwys y stiwdio fwyaf sy'n berchen i'r BBC yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y gwaith ffilmio ar gyfres newydd Dr Who yn dechrau yn ystod y misoedd nesaf.
Gwnaed y penderfyniad i godi'r stiwdio yng Nghaerdydd yn 2008 yn dilyn strategaeth y BBC i ddatganoli gwaith o Lundain i Gymru.
Nod y BBC yw sicrhau fod 50% o'u cyllideb rhwydwaith yn cael ei wario y tu allan i Lundain erbyn 2016.
Yn ôl y cynllun roedd cyfran BBC Cymru o wariant y gorfforaeth ar gynyrchiadau i ddyblu o fewn wyth mlynedd, o 2.6% i o leiaf 5% erbyn 2016.
Yn ystod y penwythnos, bydd teithiau i'r cyhoedd ac i staff o amgylch y safle.
Mae cyfanswm o 600 o lefydd ar gael bob dydd am dri diwrnod.
Ddydd Llun bydd yna agoriad ffurfiol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Hefyd bydd arddangosfa o luniau yn dangos datblygiad y stiwdios tan Fawrth 23 yn y Senedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2011
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2008