Cymru dan-20 30-23 Yr Eidal dan-20

Luke Morgan Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth rhyng-gipiad hwyr yn y gêm sicrhau buddugoliaeth i Gymru dan 20 oed ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.

Roedd yr Eidal wedi bod ar y blaen am ran fwyaf o'r gêm ond cais yr wythwr Dan Baker sicrhaodd ail fuddugoliaeth i Gymru yn y gystadleuaeth.

Bu'n rhaid i Baker redeg hyd hanner y cau ar ôl iddo ryng-gipio pas John Apperley.

Sgoriodd gyda phum munud o'r gêm yn weddill.

Daeth ceisiadau eraill Cymru gan Rob Evans a Luke Morgan.

Daeth gweddill y pwyntiau o giciau Sam Davies a Jordan Williams. Gudio Calabrese a Leonardo Sarto sgoriodd ceisiadau'r Eidal.

CYMRU dan -20: Jordan Williams (Scarlets); Iolo Evans (Scarlets), Nathan Edwards (Pen-y-bont), Jack Dixon (Dreigiau), Luke Morgan (Gweilch); Sam Davies (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Jamie Sollis (Dreigiau), WillGriff John (Gleision), Matthew Screech (Gleision), Rhodri Hughes (Gweilch), Ellis Jenkins (Gleision, capt), Thomas Young (Gleision), Dan Baker (Gweilch).

EILYDDION: Darran Harris (Gleision), Thomas Davies (Gleision), Samson Lee (Scarlets), Jack Jones (Gweilch), Ieuan Jones (Dreigiau), Jonathan Evans (Dreigiau), Owen Williams (Scarlets) Ross Jones (Gweilch).

YR EIDAL dan-20: David Odiete (Rugby Reggio); Angelo Esposito, (Ruggers Tarvisium), Giulio Bisegni, (Mantovani Lazio), Michele Campagbaro, (Rugby Mirano), Leonardo Sarto (Petrarca Padova); John Apperley (Rugby Reggio), Guido Calabrese (San Gregorio Catania); Sami Drissi (UR Capitolina), Giovanni Maistri (Cammi Calvisano), Pietro Ceccarelli, (Mantovani Lazio), Alessio Zdrilich (Ospitaletto Rugby), Matteo Ferro (Femi-CZ Rovigo), Jacopo SALVETTI (Sertori Sondrio), Vittorio Marazzi (Sertori Sondrio), Federico Conforti (Petrarca Padova).

EILYDDION: Alain Moriconi (UR Capitolina), Luca Scarsini (Udine Rugby), Antonio Brandolini (L'Aquila Rugby), Luca Alfio Mammana (L'Aquila Rugby), 20 Andrea De Marchi (Femi-CZ Rovigo), Edoardo Padovani (Marchiol Mogliano), Davide Farolini (Banca Monte Parma Crociati), Alex Morsellino (Petrarca Padova).