Castell-nedd yn fuddugol
- Cyhoeddwyd

Mae Castell-nedd yn gwneud eu gorau i gadw o fewn cyrraedd Bangor a'r Seintiau Newydd ar frig yr adran.
Maen nhw nawr yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r Seintiau Newydd.
Dwy gôl gan Luke Bowen wnaeth sicrhau'r tri phwynt i Gastell-nedd mewn gêm anodd oddi cartref i Lanelli, y tîm sy'n bedwerydd.
Sgoriodd Bowen ei gyntaf ar ôl dim ond saith munud, ond roedd y tim cartref yn gyfartal o fewn pum munud diolch i Chris Venables.
Daeth ail gôl Bowen ar ôl 21 munud.
Ar waelod yr uwchgynrhair roedd hi'n frwydr rhwng Caerfyrddin a Port Talbot.
Buddugoliaeth brin i Gaerfyrddin diolch i gôl gan Jack Christopher.
Yn gêm arall y noson roedd yna dair gôl i'r Bala wrth iddynt guro Prestatyn 3-0.
Mark Jones (16') Ian Sheridan (66') a Lee Hunt (83') oedd y sgorwyr.