Achub dau bysgotwr o'r niwl
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd dau bysgotwr oedd wedi mynd ar goll mewn niwl eu hachub gan Wylwyr y Glannau a badau achub yn oriau man fore Sadwrn.
Daeth galwad i Wylwyr y Glannau yn Abertawe am 5:00am fore Sadwrn yn gofyn am gymorth wedi i'r ddau golli eu ffordd ar draeth Monksnash ger Llanilltud Fawr.
Roedd y ddau wedi cyrraedd yno am 10:00pm nos Wener am noson o bysgota.
Aeth tîm achub Gwylwyr y Glannau Llanilltud Fawr yno a gofyn am gymorth badau achub Coleg yr Iwerydd a Phorthcawl.
Roedd gan y ddau ddyn oleuadau ar eu pennau, ac fe'u gwelwyd drwy'r niwl.
Dywedodd Bernie Kemble, rheolwr gyda Gwylwyr y Glannau Abertawe:
"Cyn cychwyn ar daith bysgota, gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi yn drylwyr fel y gallwch fwynhau eich hun yn ddiogel.
"Mae hynny'n cynnwys gwirio amser y llanw - mae'r wybodaeth yma ar gael ar y we - gwyliwch ragolygon y tywydd, gwisgwch ddillad adlewyrchol a thortsh ac ewch ag offer cyfathrebu gyda chi gan gofio y gallai signal ffôn symudol amrywio o dan glogwyni."