Hiliaeth yn graith ar bêl-droed
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru yn dangos bod hiliaeth yn rhywbeth amlwg mewn pêl-droed amatur yng Nghymru.
Mae timau o leiafrifoedd ethnig wedi dweud wrth rhaglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales eu bod yn dioddef enllb hiliol mewn gemau gan chwaraewyr eraill, cefnogwyr a hyd yn oed swyddogion y gêm.
Bu nifer o ddigwyddiadau hiliol mewn gemau yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys un ym mis Ebrill pan gafodd dyfarnwr cynorthwyol mewn gêm rhwng Cwmbrân a Grange Harlequins o Gaerdydd ei ddisgyblu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru am sylwadau a wnaeth tuag at chwaraewr.
Cafodd ddirwy o £750 a'i wahardd o gae Cwmbrân am bum mis.
Anghywir
Dywedodd Mohamed Dualeh, ysgrifennydd Tiger Bay FC - tîm sy'n cynnwys chwaraewyr Somali yn bennaf - wrth y rhaglen am ddigwyddiad mewn gêm yr oedd y tîm yn chwarae ynddi.
"Fe benderfynnodd y dyfarnwr bod un o'n chwaraewyr ni yn haeddu cerdyn coch am dacl.
"Ond dangosodd y cerdyn i'r chwaraewr anghywir. Aeth ein capten ato a dweud hynny wrtho.
"Edrychodd y dyfarnwr ar y chwaraewr a dywedodd 'rydych chi i gyd yn edrych yr un fath.'
"Aeth y chwaraewr anghywir oddi ar y cae a chael gwaharddiad o dair gêm nad oedd yn ei haeddu."
'Darlun cliriach'
Dywedodd Sunil Patel, rheolwr ymgyrch Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru, y byddai'r corff yn lansio ymgyrch yn ddiweddarach eleni i annog chwaraewyr i nodi bob digwyddiad yn y gobaith o greu darlun cliriach o faint y broblem.
"Rydym yn clywed adroddiad ers tua pum mlynedd, ers i ni gael ein sefydlu," meddai Mr Patel.
"Y pethau sy'n dod o'r clybiau yw hanesion am hiliaeth gan gefnogwyr, dyfarnwyr y ffafrio timau eraill a chwaraewyr yn ymddwyn yn hiliol tuag at chwaraewyr eraill ar y cae hefyd.
"Mae hynny'n rhywbeth sy'n dod i'n sylw yn gyson."
Mewn arolwg ar-lein diweddar gan Brifysgol Sir Stafford o 2,000 o gefnogwyr a chwaraewyr, roedd tua 60% wedi gweld neu brofi hiliaeth mewn pêl-droed ers 2000.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n gyfrifol am ddelio gyda chwynion a materion disgyblu.
Dywedodd eu llefarydd Ian Gwyn Hughes wrth y rhaglen Eye On Wales nad yw'r Gymdeithas yn diodde' unrhyw droseddau o'r fath ac yn cefnogi gwaith Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
Bydd Eye on Wales yn cael ei darlledu am 1:04pm ar ddydd Sul, Mawrth 11, ar BBC Radio Wales.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2011