Bristol City 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Not Specified

Bristol City 1-2 Caerdydd

Mae gobeithion Caerdydd o esgyn i'r Uwchgynghrair wedi atgyfodi yn dilyn buddugoliaeth ym Mryste.

Dyma oedd y fuddugoliaeth gyntaf oddi cartref i dîm Malky Mackay yn 2012, ac mae'n dod â'u rhediad gwael yn y bencampwriaeth yn ddiweddar i ben.

Er i Joe Mason hawlio'r gôl yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf yn wreiddiol, fe'i roddwyd hi fel gôl i'w rwyd ei hun gan Stephen McManus.

Ond wedi saith munud o'r ail gyfnod roedd hi'n gyfartal.

Jon Stead sgoriodd gydag ergyd o'r tu mewn i'r cwrt chwech.

Roedd Caerdydd yn feistri ar y chwarae, gan hawlio mwy o'r meddiant, mwy o ergydion at y gôl a mwy o ergydion cywir.

Methu sgorio yw man gwan yr Adar Gleision yn ddiweddar, ond fe ddaeth un arall o chwaraewyr y tîm cartref i'r adwy i'w hachub.

Kalifa Cisse rwydodd i'w gôl ei hun wedi 87 munud i roi buddugoliaeth i Gaerdydd, ac roedd yr ochenaid o ryddhad i'w glywed yn y brifddinas.

Mae Caerdydd yn ôl yn safleoedd y gemau ail gyfle, gyda gêm wrth gefn ar y tîm sydd uwch eu pennau - Brighton.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol