Casnewydd 3-1 Wealdstone
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 3-1 Wealdstone
Mae Casnewydd wedi cymryd cam mawr yn nes at rownd derfynol yn Wembley wedi buddugoliaeth yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Tlws yr FA.
Fe gafodd yr Alltudion y dechrau gorau posib wrth i Elliott Buchanan rwydo wedi dim ond saith munud.
Roedd y gôl yn ddadleuol gan fod awgrym o lawio, a chamsefyll yn erbyn Buchanan.
Ac fe aeth pethau'n well fyth wedi 22 munud wrth i Nat Jarvis ddyblu'r fantais i dîm Justin Edinburgh.
Jarvis oedd y cyntaf i ymateb wrth i beniad Gary Warren daro'r trawst wedi cic gornel.
Wembley
Mae Wealdstone ddwy adran yn is na Chasnewydd, ond fe wnaethon nhw frwydro'n wych yn yr ail gyfnod yn enwedig, ac fe gawson nhw'u gwobrwyo gyda gôl wrth i Richard Jolly daro ergyd rymus heibio i Glyn Thompson.
Fe gafodd yr ymwelwyr gyfle i ddod yn gyfartal gyda chynnig arall anhygoel gan Jolly, ond o fewn munud i hynny roedd Casnewydd wedi sgorio y pen arall.
David Pipe ddaeth o hyd i Daryl Knights gyda phas dreiddgar, ac fe rwydodd Knights i adfer y fantais.
Mae Casnewydd eisoes wedi gwerthu'r 500 o docynnau a gawsant ar gyfer yr ail gymal ac fe ddaeth hwb i'r cefnogwyr ddydd Sadwrn gyda'r newyddion y byddan nhw'n debryn 175 o docynnau ychwanegol ar gyfer y gêm yn Wealdstone.
Gyda Chaerdydd eisoes wedi chwarae yn Wembley y tymor hwn, Casnewydd o fewn un gêm i gyrraedd yno a Wrecsam yn safleoedd y gemau ail gyfle yn Uwchgynghrair Blue Square Bet, mae'n bosib y gall tri thîm o Gymru ymddangos ym mhencadlys pêl-droed Lloegr yn yr un tymor am y tro cyntaf erioed.