Cymru 24-3 Yr Eidal

Image copyright bbc
Image caption Jamie Roberts sgoriodd y cais cyntaf i Gymru

Cymru 24-3 Yr Eidal

Roedd rhaid wedi darogan gêm galed i Gymru, ac fe ddaeth y rhagolygon yna'n wir yn yr hanner cyntaf yn erbyn Yr Eidal.

Er i Gymru reoli'r meddiant a'r tir, roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn a threfnus, a bu'n rhaid i Gymru fodloni gyda thair cic gosb o droed Leigh Halfpenny yn erbyn un Bergamasco i'r Eidal i fod ar y blaen ar yr egwyl.

Ond roedd hyder y Cymry'n amlwg, ac fe dalodd hynny ar ei ganfed wedi llai na deng munud o'r ail gyfnod.

Wrth i'r Eidal geisio ymosod, fe rwygodd Ian Evans y bêl yn y dacl - eiliadau yn ddiweddarach fe ddaeth y bêl at Jamie Roberts ac fe redodd 70 llath i sgorio o dan y pyst.

Gyda throsiad Halfpenny, roedd y fantais yn 16-3.

Dihiryn

Doedd Cymru yn dal ddim ar eu gorau, a gyda'r gêm am y gamp lawn i ddod yn erbyn Ffrainc, mae hynny'n rhywbeth y bydd rhaid i'r tîm hyfforddi ei ddatrys.

Yn fuan wedi'r cais cyntaf, daeth cyfle da arall i Gymru groesi'r llinell, ond arweiniodd cyfuniad o amddiffyn da a gwallau Cymru wrth drafod y bêl at y cyfle'n cael ei golli.

Er i Leigh Halfpenny fod yn un o chwaraewyr disgleiriaf Cymru yn ystod y bencampwriaeth, fe drodd yr arwr yn ddihiryn.

Wrth i Sergio Parisse godi i dderbyn pêl uchel, roedd sialens y cefnwr arno yn flêr ac anghyfreithlon, ac fe gafodd ei yrru i'r cell cosb am ddeng munud.

Mae record Cymru gydag 14 dyn ar y cae wedi gwella'n ddiweddar, ac yn hytrach nag ildio pwyntiau fe ddaeth cyfle arall i anelu am y pyst.

Gan fod Halfpenny yn dal yn y cell, Rhys Priestland gafodd y cyfrifoldeb, ac fe ychwanegodd y triphwynt yn gyffyrddus.

Roedd ymdrech arwrol yr Eidalwyr yn dechrau dangos, ac wrth iddyn nhw flino daeth cais arall i Gymru gyda thri munud yn weddill.

Alex Cuthbert groesodd am ei ail gais rhyngwladol.

Mae gan Warren Gatland wythnos i wella'n brychau yn chwarae Cymru cyn i Ffrainc ymweld â Stadiwm y Mileniwm y penwythnos nesaf.

Ond bydd Gatland a Chymru gyfan nawr yn medru edrych ymlaen at y gêm honno gan wybod y gallai'r tîm ennill y Gamp Lawn unwaith eto.

TABL Y CHWE GWLAD 2012
Chwarae Ennill Cyfartal Pwyntiau
Cymru 4 4 0 8
Lloegr 4 3 0 6
Ffrainc 4 2 1 5
Iwerddon 4 2 1 5
Yr Alban 4 0 0 0
Yr Eidal 4 0 0 0

Straeon perthnasol