Apêl heddlu wedi marwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
DamwainFfynhonnell y llun, bbc

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi i ddyn 59 oed farw yn dilyn digwyddiad ar ffordd yng Nghwmbrân.

Roedd y dyn yn cerdded ar yr A4051 tuag at ganol y dref yn agos o gylchfan Pontrhydyrun am tua 7:00pm nos Sadwrn.

Bu mewn gwrthdrawiad gyda char Skoda Octavia.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.

Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.