Alex Cuthbert yn anwybyddu sibrydion am y Gamp Lawn

  • Cyhoeddwyd
Alex CuthbertFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r asgellwr Alex Cuthbert yn mynnu nad yw Cymru wedi dechrau meddwl am y Gamp Lawn er gwaetha'r fuddugoliaeth dros Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Sgoriodd ei ail gais rhyngwladol wrth i Gymru hawlio'r bedwaredd buddugoliaeth mewn pedair gêm.

Ond yr hen ystrydeb ddaeth i'w feddwl - "Rhaid trin bob gêm un ar y tro," meddai.

"Fedrwch chi ddim gofyn mwy na pedair allan o bedair, ond rhaid i ni weithio'n galed yr wythnos yma cyn gêm Ffrainc.

"Maen nhw'n chwarae rygbi da ac yn dîm anodd eu curo.

"Fe fydd llond y lle o gefnogwyr gwych, a gobeithio y gallaf weithio'n galed a chael fy newis i'r tîm."

Teyrnged

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm yn sicrhau'r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn wyth mlynedd, a'r ail o dan reolaeth Warren Gatland.

Roedd rhaid i Gymru weithio'n galed o orchfygu amddiffyn cadarn yr Eidalwyr, a bu'n rhaid aros tan yr ail hanner cyn i geisiau Cuthbert a Jamie Roberts sicrhau'r fuddugoliaeth.

Talodd Cuthbert deyrnged i ymdrechion yr Eidalwyr sydd wedi colli bob un o'u pedair gêm yn y Bencampwriaeth eleni.

"Roedden ni'n gwybod y byddai'n galed o'r dechrau," meddai. "Yn amlwg fe gawson ni gyfleoedd, ond efallai nad oedden ni'n ddigon clinigol.

"Roedden nhw'n gweithio'n eithriadol o galed. Roedd hi'n anodd mynd drwyddyn nhw, ond roedden ni hefyd yn gwybod os bydden ni'n gweithi'n galed hefyd bod modd i ni dorri drwodd ac ennill."