Rhybudd am 'drefi anghyfannedd'

  • Cyhoeddwyd
HSBC sign (generic)

Mae dau Aelod Seneddol wedi rhybuddio y gallai pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad fod yn byw mewn trefi neu bentrefi anghyfannedd cyn bo hir.

Roedd Glyn Davies ac Albert Owen yn siarad ar raglen y BBC, Sunday Politics, pan ddywedon nhw eu bod yn bryderus am ddyfodol cymunedau cefn gwlad sy'n gweld gwasanaethau fel banciau a bysys yn cael eu cau neu gwtogi.

Daeth y mater i sylw yr wythnos ddiwethaf pan gaeodd banc HSBC ei gangen yn Llanandras ym Mhowys gan ddweud bod y gangen yn cael llai o ddefnydd na bron bob un yn y wlad.

'Eilradd'

Dywedodd Mr Owen, AS Ynys Môn: "Mae peryglon anferth yma oherwydd rydym yn son am sefydliadau sydd wedi bod yno ers degawdau - os ydyn nhw'n mynd rydym mewn perygl o weld gwasanaethau cefn gwlad yn troi'n rhai eilradd, ac mewn rhai ardaloedd gweld trefi a phentrefi anghyfannedd.

"Mae mwy i fyw yng nghefn gwlad na chaeau agored. Mae cymuned yna, ac mae'r gymuned yna'n cael ei thanseilio wrth i adnoddau fel banciau, siopau a swyddfeydd post gau."

Dywedodd Mr Davies, AS Maldwyn, bod angen gweithredu ar frys.

"Fy nghenhadaeth i mewn bywyd yw arafu'r broses, nid dim ond ar fanciau ond holl wasanaethau cefn gwlad oherwydd rydym wedi eu gweld yn diflannu o gefn gwlad ers cyn cof.

"Rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar fanciau - yn enwedig gan eu bod wedi derbyn llawer o arian gan y llywodraeth er mwyn goroesi - i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael yn drefi anghyfannedd."

'Arian Monopoly'

Ychwanegodd Mr Owen ei fod yn cyfarfod rheolwyr HSBC dros yr wythnosau nesaf i fynegi ei bryderon.

"Dydw i ddim yn credu eu bod nhw'n deall - maen nhw'n meddwl y gallan nhw gau canghennau un ar y tro.

"Mae angen rhwydwaith o ganghennau arnom ni. Fe gawson nhw'u sefydlu fel bod pobl yn medru cerdded i mewn drwy'r drws a chael eu harian.

"Bellach mae'r banciau yn chwarae gyda'r arian fel pres Monopoly ar draws y byd ac rydym yn colli sefydliad gwerthfawr."