Agoriad swyddogol stiwdios newydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd stiwdios newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath eu hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Dyma ganolfan gynhyrchu drama fwyaf y BBC yn y DU, ac mae'n rhan o gynllun Porth Teigr ym Mae Caerdydd.
Cafodd ei hadeiladu yn dilyn ymrwymiad y BBC yn 2008 i ddyblu nifer ei chynyrchiadau teledu rhwydwaith yng Nghymru.
Mae'r stiwdios yn gartref parhaol i gynyrchiadau Pobol Y Cwm, Casualty a Doctor Who yn ogystal a dramau eraill.
Penwythnos agored
Agorwyd drysau'r ganolfan ddydd Sadwrn, ac fe ddaeth tua 1,000 o bobl i gael cipolwg prin o'r safle - sy'n cyfateb i faint tri chae pêl-droed - dros y penwythnos.
Rhoddwyd y tocynnau ar gyfer ymweliadau ar sail loteri, ond roedd llawer mwy wedi gwneud cais am docyn nag yr oedd tocynnau ar gael.
Wrth siarad cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Carwyn Jones: "Mae'r ganolfan yma yn gam mawr ymlaen i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac fe fydd yn gartref i gynyrchiadau fydd yn cael eu gweld ar draws y byd.
"Mae'r diwydiannau creadigol - teledu, ffilm a theatr - yn bwysig iawn i'n heconomi, gan gefnogi swyddi a buddsoddiad, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynnol o weld hyn yn parhau.
"Mae Porth y Rhath yn symbol o'r hyn y gall Cymru gyflawni, ac o'r dyfodol disglair sydd o'n blaenau."
'Diolch'
Y ganolfan yw adeilad diwydiannol cyntaf yn y DU i gael gwobr rhagoriaeth BREEAM am ei nodweddion gwyrdd.
Cafodd yr enw Porth y Rhath ei ddewis wedi ymgynghoriad gyda staff BBC Cymru.
Mae Porth y Rhath hefyd yn ganolbwynt i gynllun Porth Teigr - cynllun y mae Llywodraeth Cymru yn dweud fydd yn cynnal 8,000 o swyddi pan fydd wedi ei gwblhau.
Ynghyd â siopau a thai bwyta, bydd y cynllun yn cynnwys 1,000 o gartrefi.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Rydym yn gwybod bod ein cynulleidfa yng Nghymru yn falch iawn o lwyddiant dramâu BBC Cymru, ac roedd y penwythnos agored agoriadol yn gyfle i ddweud 'diolch' am eu cefnogaeth.
"Porth y Rhath yw canolfan gynhyrchu drama fwyaf y BBC yn y DU, ac rydym yn falch o'n record wrth gynhyrchu rhaglenni o safon byd eang.
"Ond y cyffro go iawn yw'r hyn sydd eto i ddod - mae gen i ryw synnwyr bod y posibiliadau creadigol yma yn ddiddiwedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2011