Heddlu'n apelio wedi marwolaeth gyrrwr
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol yn Abertawe fore Sul.
Roedd beic modur Kawasaki ER-5 glas yn teithio ar hyd yr A483 Ffordd Fabian i ffwrdd o'r ddinas pan fu mewn gwrthdrawiad â pholyn traffic ger cyffordd, ac yna yn erbyn rheiliau ar ochr bella'r gyffordd.
Cludwyd gyrrwr y beic modur i Ysbyty Treforys lle cafodd driniaeth am anafiadau niferus, ond bu farw yno.
Hoffai Heddlu De Cymru siarad gydag unrhyw dystion i'r digwyddiad, a phobl arhosodd i gynnig cymorth ar y pryd ond sydd heb adael eu manylion gyda'r heddlu.
Bu'r ffordd ar gau am oddeutu pedair awr a hanner wedi'r digwyddiad er mwyn i'r heddlu gynnal ymchwiliad llawn.
Dylai pobl sydd â gwybodaeth ffonio Uned Blismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 01792 456999, neu 101, ac fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.