Cwpan LV= : Northampton 27-12 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Northampton 27-12 Scarlets
Mae'r Scarlets allan o Gwpan LV= ar ôl colli yn Northampton yn y rownd gynderfynol.
Roedd pac y tîm cartref yn llawer cryfach, a nhw sgoriodd yr unig geisiau yn y gêm gan Alex Waller a Scott Armstrong.
Bydd Northampton nawr yn cwrdd â Chaerlŷr yn y rownd derfynol ddydd Sul nesaf.
Daeth unig bwyntiau'r Scarlets o droed Stephen Jones a giciodd bedair cic gosb.
Bu bron i'r ymwelwyr fynd ar y blaen wedi dim ond wyth munud wrth i Dominic Day groesi'r llinell, ond fe benderfynnodd y dyfarnwr fideo nad oedd wedi tirio'r bêl o ganlyniad i amddiffyn Northampton.
Ac fe fansteisiodd Northampton ar eu lwc pan groesodd Waller wedi 15 munud, ac fe ychwanegodd Myler y trosiad.
Ar yr egwyl, roedd y Scarlets ar ei hôl hi o 13-6, ond fe aeth pethau'n waeth pan groesodd Armstrong yn dilyn amddiffyn llac gan y Scarlets.
Roedd diffyg disgyblaeth hefyd yn ffactor, gyda'r Scarlets yn ildio gormod o giciau cosb, a Myler yn manteisio ar hynny i roi Northampton yn bellach ar y blaen.
I roi halen ar y briw fe gafodd Day ei yrru i'r cell cosb am gamsefyll parhaus gan roi'r fuddugoliaeth gymharol hawdd i'r Seintiau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2007