Canfod corff dyn oedd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 65 oed sydd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth yr wythnos diwethaf wedi cael ei ganfod yn farw.
Cafwyd hyd i gorff Geoffrey Hayward, oedd yn rhannol ddall, mewn ffos yn agos i'w gartref yn ardal Dyffryn o Gasnewydd.
Roedd y person oedd yn gofalu amdano wedi dweud wrth yr heddlu ei fod ar goll.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Hoffwn fynegi ein cydymdeimlad i deulu a chyfeillion Mr Hayward.
"Does dim amgylchiadau amheus am ei farwolaeth. Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth."