Cerddwr yn syrthio
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr yn gwella yn yr ysbyty wedi iddo ddioddef anafiadau i'w ben a'i goesau ar ôl syrthio oddi ar glogwyn yn Eryri.
Roedd y dyn o Gilgwri, sydd yn ei bumdegau hwyr, yn cerdded gyda'i wraig a chwpl arall ger copa Glyder Fach ddydd Sul pan gwympodd 30 troedfedd (9 metr).
Llwyddodd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen i'w gludo i hofrennydd.
Aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw am 12.15pm ddydd Sul.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol