M4: Tagfeydd wedi damwain mewn niwl

  • Cyhoeddwyd
Yr M4Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu'n rhaid i yrwyr ddioddef niwl trwchus fore Llun

Mae holl lonydd yr M4 wedi ail agor ar ôl damwain rhwng sawl cerbyd mewn niwl trwchus yn ystod yr oriau brys bore Llun.

Cafodd un lôn ddwyreiniol ar Bont Llansawel ei chau rhwng cyffordd 42 (Ffordd Fabian) a chyffordd 41 (Baglan) wedi'r gwrthdrawiad.

Dywed y gwasanaethau brys fod nifer o gerbydau yn rhan o'r ddamwain gan gynnwys fan a dau gar.

Roedd y tagfeydd yn ymestyn i gyffordd 43 ger Llandarsi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol