BBC Cymru Fyw

Warburton yn obeithiol

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionDim ond dwy gêm y mae Sam Warburton wedi chwarae i Gymru ers Cwpan y Byd
Mae hyfforddwyr Cymru yn ffyddiog y bydd y capten Sam Warburton yn holliach i wynebu Ffrainc ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm.
Oherwydd anaf ni chwaraeodd y blaenasgellwr ym muddugoliaeth Cymru o 24-3 yn erbyn yr Eidal.
"Mae newyddion ynglŷn â Sam yn galonogol iawn," meddai Robin McBryde, hyfforddwr blaenwyr Cymru.
"Mae o wedi bod yn rhedeg yr wythnos hon ac mae o wedi bod yn ymarfer mewn llinellau syth ond yr wythnos hon bydd o'n dechrau ochr gamu a gobeithio na fydd yn cael unrhyw adwaith i hynny."
Ddydd Sul ym Mharis fe wnaeth Lloegr guro Ffrainc 24-22.
Mae'r canlyniad yn golygu mai dim ond Cymru neu Loegr sy'n gallu ennill y bencampwriaeth.
Pe bai Cymru yn curo Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm yna nhw fydd y cipio'r bencampwriaeth gan gwblhau'r gamp lawn.

Straeon perthnasol

  • Sam Warburton yn ansicr a fydd ar gael i wynebu Ffrainc