Enwi dyn fu farw wedi damwain yng Nghwmbrân
- Published
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw'r dyn 59 oed a fu farw wedi digwyddiad ar ffordd yng Nghwmbrân dros y Sul.
Roedd Kenneth James yn cerdded ar yr A4051 tuag at ganol y dref ger cylchfan Pontrhydyrun tua 7pm nos Sadwrn.
Bu mewn gwrthdrawiad gyda char Skoda Octavia.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.
Bu Mr James yn byw yn ardal Cwmbrân drwy gydol ei oes ac roedd yn briod gyda thri o blant.
Dywedodd ei deulu ei yn gweithio i Just Rollers Cwmbrân ac yn aelod o Gôr Dreigiau Gwent, yn ŵr, tad a ffrind arbennig.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.