Arolwg: Dahl yw hoff awdur athrawon ysgolion cynradd
- Cyhoeddwyd

Mae gwefan sy'n cynnig adnoddau i athrawon wedi cyhoeddi mai Roald Dahl yw hoff awdur athrawon cynradd.
Roedd pump o lyfrau'r Cymro ymhlith Deg Uchaf arolwg, gan gynnwys Charlie a'r Ffatri Siocled a Danny, Pencampwr y Byd.
Daeth awdur llyfrau Harry Potter, JK Rowling, ac awdur Y Gryffalo, Julia Donaldson yn gydradd ail yn arolwg gwefan Teachit.
Cafodd Roald Dahl ei eni yn Villa Marie, Heol y Tyllgoed yn Llandaf yn 1916 i deulu oedd yn hanu o Norwy.
17%
Roedd yn ddisgybl yn Ysgol y Gadeirlan tan ei fod yn wyth oed.
Yn ôl athrawon, llyfrau gorau'r awdur fu farw ym 1990 oedd Charlie a'r Ffatri Siocled, Y Twits, Danny, Pencampwr y Byd, Y CMM a Moddion Rhyfeddol George.
Dywedodd sylfaenydd y wefan, Siobhain Archer, fod llyfrau Dahl wedi'u henwi gan 17% o'r 848 o athrawon y gofynnwyd eu barn.
Mae rheolwr ystad lenyddol Roald Dahl, Amanda Conquin, wedi dweud: "Mae'r straeon yn dal yn gyfoes ac er eu bod yn wahanol i'w gilydd maen nhw'n ddoniol iawn."
Straeon perthnasol
- 9 Ionawr 2012
- 27 Tachwedd 2011
- 13 Medi 2011