Llwyfan i dalent
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gwobr newydd ar gael i ddramodwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Yn ystod agoriad swyddogol stiwdios newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath ddydd Llun fe gyhoeddwyd manylion y wobr ddrama.
Mae'n wobr ar y cyd rhwng BBC Cymru a National Theatre Wales sy'n gweithio mewn partneriaeth agos â BBC Writersoom i ddod o hyd i ysgrifenwyr beiddgar a gwreiddiol sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Bydd enillydd y wobr, sy'n cael ei rhoi bob dwy flynedd, yn derbyn £10,000 a'r cyfle i ddatblygu eu sgript a'u syniadau gydag un ai Drama BBC Cymru neu National Theatre Wales.
Bydd dwy ail wobr o £1,000 a chyfle i ddatblygu sgript.
'Awch'
Y panel beirniad fydd Pennaeth Drama BBC Cymru, Faith Penhale; Kate Rowland, Cyfarwyddwr Creadigol BBC Ysgrifennu Newydd; yr ysgrifenwyr amlwg Russell T Davies ac Abi Morgan a John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales.
"Mae'n gyfnod hynod o gynhyrfus i ddrama yng Nghymru," meddai Faith Penhale, Pennaeth Drama, BBC Cymru.
"Mae awch creadigol hynod yma.
"Wrth agor ein stiwdios newydd yn swyddogol, rydym am rannu uchelgais a photensial Porth y Rhath, a chefnogi ac annog talent ysgrifennu Cymraeg - newydd a sefydledig."
Dywedodd John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, bod y cwmni yn falch i weithio gyda BBC Cymru ar y fenter newydd yma.
'Gwahanol'
"Rwy'n arbennig o falch ein bod yn annog ysgrifenwyr i feddwl am y gwahanol lwyfannau y mae modd ysgrifennu iddyn nhw o deledu, theatr a mwy.
"All yr ysbryd cydweithredu tu ôl i'r wobr hon ddim ond bod yn fanteisiol i ddrama yng Nghymru."
Dylai awduron gyflwyno sgript hir mewn unrhyw gyfrwng, a honno i fod o leiaf 30 munud o hyd, heb gael ei pherfformio na'i chynhyrchu, yn Saesneg, erbyn Gorffennaf 16, 2012.
Caiff chwe awdur ar y rhestr fer eu gwahodd fis Medi 2012 i drafod eu sgript a syniad yr hoffen nhw ei ddatblygu.
Fe gyhoeddir yr enillydd ddiwedd 2012.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2012
- 10 Mawrth 2012
- 19 Awst 2011