'Ddim yn nabod' llais brawd sy'n cael ei gadw yn Libya
- Cyhoeddwyd

Mae chwaer gŵr camera o Gaerfyrddin sy'n gaeth yn Libya ar amheuaeth o sbïo wedi dweud mai prin yr oedd yn adnabod ei lais ar y ffôn.
Dywedodd Mel Gribble mai dyma'r tro cyntaf iddi siarad â Gareth Montomery-Johnson, 36 oed, ers iddo gael ei ddal dair wythnos yn ôl.
Mae Mr Montgomery-Johnson yn gweithio i rwydwaith teledu Iran, Press TV ac mae honiadau ei fod yn wynebu "artaith feddyliol".
Dywedodd hi ei fod wedi ei ffonio o swyddfa'r is-gennad ddydd Sul.
Mae'r milisia yn ei gadw yn Tripoli gyda'r newyddiadurwr Nicholas Davies o Berkshire.
'Ddim yn swnio'
"Roedd yn fater o frys i gael cymaint o wybodaeth â phosib ar y ffôn," meddai'r chwaer.
"Ac roedd 'na sŵn yn y cefndir ac 'Ie' neu 'Na' oedd yr ateb yn benna.
"Doedd e ddim yn swnio fel Gareth ac roedd rhaid iddo ddweud pwy oedd e ar y cychwyn.
"Roedd ei lais yn llawn emosiwn."
Dywedodd wrth ei chwaer nad oedd yn cael ei gam-drin yn gorfforol ond pan ofynnodd hi a oedd yn wynebu artaith feddyliol, ei ateb oedd: "I radde helaeth ..."
"Wedi i mi egluro beth oedd yn cael ei wneud yma a bod y lefel ucha' yn delio â'r mater ofynnais a oedd rhywbeth arall y gallwn i ei wneud.
"Ei ateb oedd dal i ymdrechu."
Yn ddiweddarach, siaradodd hi â staff swyddfa'r is-gennad yn Tripoli a gadarnhaodd fod ei brawd yn "iawn" ac y byddai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i'r Swyddfa Dramor.
'Tystiolaeth ddamniol'
"Rydym yn aros yn amyneddgar," ychwanegodd.
Dywedodd fod yr wythnos diwethaf wedi bod yn araf iawn.
Mae arweinydd y milisia, Faraj al-Swehli, wedi dweud bod y ddau wedi dod i mewn i Libya yn anghyfreithlon a'u bod yn cario "tystiolaeth ddamniol".
Eisoes mae wedi dangos "tystiolaeth" i newyddiadurwyr yn y wlad fod y ddau'n tanio drylliau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cynnig cyngor o'r is-gennad i'r ddau ac mae staff y llysgennad wedi ymweld â nhw sawl gwaith.
"Rydym wedi codi'r mater gyda'r awdurdodau yn Libya."
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2012
- 24 Chwefror 2012