Cais Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i warchod awyr
- Cyhoeddwyd

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwneud cais i fod yn warchodfa awyr dywyll ryngwladol.
Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi hwb i dwristiaeth ac fe fyddai'r statws yn golygu bod llygredd golau yn cael ei atal.
Yn ôl swyddogion, ar noson glir uwchben y bannau mae modd gweld y Llwybr Llaethog yn ogystal â nifer o glystyrau sêr a chawodydd sêr gwib.
Ddydd Sul dechreuodd arolwg golau yn y parc ac mae taflen yn cael ei dosbarthu yn hysbysu pobl sut i fod yn rhan o'r prosiect a sut mae modd atal llygredd golau yn y nos.
"Mae hwn yn gyfle gwych i gael cymaint o wybodaeth â phosib ...," meddai Jim Wilson, Cadeirydd Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog.
"Fydd yr aseswyr golau ddim yn ymweld â thai neb heb ganiatâd ymlaen llaw.
"Dyw hyn ddim yn golygu ein bod eisiau i bobl gael gwared ar eu golau ... yn lle hynny rydyn ni'n gofyn iddyn nhw feddwl am y modd y mae golau yn cael ei ddefnyddio a bydd hyn yn lleihau biliau ynni."
Bywyd gwyllt
Dywedodd Margaret Underwood, arbenigwraig ar fioamrywiaeth yn y parc, fod llygredd golau wedi effeithio ar fywyd gwyllt.
"Roedd gweld pryfed tân yn brofiad cyfareddol ond maen nhw'n brin iawn erbyn hyn."
Derbyniodd Parc Cenedlaethol Exmoor ac ynys Sark, un o Ynysoedd y Sianel, y statws y llynedd.
Mae Ynys Enlli hefyd wedi gwneud gwneud cais.